YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL
Gorffennaf 2025
|
YMWELIADAU MEWNOL |
|
|
03 Gorffennaf
04 Gorffennaf
08 Gorffennaf
|
Ymweliad y Tánaiste Gwyddelig â Chymru ar gyfer Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru Teithiodd y Tánaiste i Abertawe ar gyfer pumed Fforwm Gweinidogol blynyddol Iwerddon-Cymru. Roedd y Gweinidog Materion Tramor a Masnach, a'r Gweinidog Amddiffyn yng nghwmni'r Tánaiste. Yn eu trafodaethau, canolbwyntiodd y Prif Weinidog a'r Tánaiste ar eu huchelgeisiau cyffredin ar gyfer y berthynas ddwyochrog rhwng Iwerddon a Chymru, gan ddyfnhau cydweithrediad dros y 5 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Ymweliad â Chymru gan Lysgennad Teyrnas yr Iseldiroedd Daeth Llysgennad yr Iseldiroedd i Gymru ar ymweliad deuddydd. Ar yr ail ddiwrnod cyfarfu â'r Prif Weinidog i edrych ar y cydweithredu rhwng Cymru a'r Iseldiroedd, yn enwedig mewn perthynas â sectorau economaidd allweddol.
Ymweliad Llysgennad Wsbecistan â Chymru Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg â Llysgennad Uzbekistan i drafod addysg yng Nghymru. Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar fodelau addysgu ac arweinyddiaeth. |
|
YMWELIADAU ALLANOL |
|
|
04 Gorffennaf
11 Gorffennaf
|
Ymweliad y Prif Weinidog â'r Swistir Ymwelodd y Prif Weinidog â'r Swistir, gan deithio i Genefa a Lucerne. Yng Ngenefa aeth y Prif Weinidog ar ymweliad â CERN, y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, i weld y safle ac ar gyfer cyfres o drafodaethau. Yna teithiodd y Prif Weinidog i Lucerne ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth Pêl-droed Ewrop Merched UEFA. Roedd hyn yn cynnwys siarad mewn digwyddiad arddangos S4C.
Ymweliad y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol â'r Swistir Teithiodd y Gweinidog CSSP i St. Gallen, y Swistir, i gefnogi tîm pêl-droed Merched Cymru yn ei gêm grŵp yn erbyn Lloegr. Yn ogystal â gwylio'r gêm, cynhaliodd y Gweinidog gyfarfodydd gyda Bardd Preswyl Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025, a Rheolwr Tîm Cymru.
|